Cysylltu

Skillset Academi+
Ystafell 2
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5LH

02920 480456

info@skillsetacademiplus.org

Gwefannau Cysylltiedig

Skillset Media Academy Wales
Transform@lab
Cinovate
Academi+ on TwitterAcademi+ on FacebookAcademi+ on LinkedIn

Cwrs

Paratoi Arweinwyr a Rheolwyr y Dyfodol - CWRS YN LLAWN. DIM LLE AR ÔL

Lle: ATRiuM, Caerdydd
Cychwyn: Sesiwn 1 - 4ydd Rhagfyr / Sesiwn 2 - 11ydd Rhagfyr
Amser: 09.00
Pris: 25

Mi fydd y cwrs hwn yn annog staff i ddatblygu eu gallu i wneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer dyfodol eu cwmniau.

Nod y gweithdai yw pontio datblygiad y gweithiwr a’r cwmni. Mi fyddent yn datblygu sgiliau arwain a rheoli ym meysydd dadansoddi busnes; gweithio yn effeithiol gyda phobol; rheoli cyllid a'r gallu i reoli newid.

Gellir defnyddio’r cwrs hwn i ymrwymo staff yn y broses o benderfyniadau strategaethol, y cwmni ac i ffocysu’r drefn werthuso.

Fe ofynnir i uwch staff a rheolwyr y cwmnïau i enwebu staff ar gyfer y gweithdai. Gan mai cwrs paratoi yw hwn nid oes angen profiad busnes nac ychwaith o reoli. Er hynny, fe grybwyllir y cymwysterau isod:

• Fod y person ar gychwyn eu gyrfa
• Fod ganddynt bresenoldeb sefydledig yn y cwmni
• Yn berchen ar ychydig o brofiad mewn rheoli prosiect
• Â gallu technegol ond yn brin o sgiliau busnes
• Ganddynt ymroddiad i amcanion y cwrs

Prif nod y cwrs hwn yw bod yn gymorth i weithwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd i gychwyn eu siwrnai tuag at reoli ac arwain gan warchod dyfodol y busnes yn y byd cystadleuol hwn.

Dr Caitriona Noonan

Mae gan Caitriona Noonan brofiad helaeth ym myd datblygu busnes, marchnata a masnach ryngwladol. Fe weithiodd fel ymgynghorydd masnach ym maes y cyfryngau darlledu a digidol ar gyfer Enterprise Ireland, asiantaeth datblygu masnach llywodraeth yr Iwerddon. Ei rôl oedd cynorthwyo cwmnïau Gwyddelig wrth iddynt fyned i’r farchnad glyweled Brydeinig. Yn ogystal fe weithiodd â chwmnïau cychwynnol a sefydledig ar ddatblygu eu busnesau a strategaethau marchnata.

Enillodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Glasgow lle bu’n astudio yng nghanolfan ymchwil polisi diwylliannol. Ar hyn o bryd mae Caitriona yn ddarlithydd Cyfryngau, Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae wedi cyflawni nifer o brosiectau ymchwil ar ddiwydiant teledu'r DU, mae ei phynciau ymchwil yn cynnwys: busnes ac economeg y cyfryngau, polisiau cyfryngau a diwylliannol, hanes darlledu, rheoli cyfryngau, hunaniaeth broffesiynol a lleoliad a chreadigrwydd.

Media Academy Wales University of Wales, Newport
University of Aberystwyth
Swansea Metropolitan University
Cardiff Metropolitan University
Work Based Learning Programme Welsh European Funding Office