Cyflwyniad i Pro Tools
Lle: Prifysgol Cymru Casnewydd, Campws Canol y Ddinas
Cychwyn:
10 & 11, 17 & 18, 24 & 25 Mawrth
Pris: Ariennir yn llwyr/rhannol - cysylltwch am fanylion
Dyluniwyd a cyflwynir y cwrs gan
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r holl wybodaeth gefndirol a phrif egwyddorion sydd angen i gwblhau prosiect recordio yn defnyddio Pro Tools. Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno yn defnyddio Pro Tools 9, Waves sy’n Oxford interfaced gyda rheolydd Icon D.
Mae angen i ymgeiswyr fod yn gallu dangos gwybodaeth o weithio gyda phecynnau cherddoriaeth a cyfrifiadurol.
Ceir sesiynau technegol gan gynnwys gweithdai yn defnyddio’r meddalwedd a chyfarpar canlynol:
- Cyflwyniad i pro tools
- Defnydd stiwdio a llwybr signal
- Prosesu signal yn defnyddio Waves ac Oxford
- Defnydd Midi ac offerynnau meddalwedd
- Mathau o ficroffon (AKG, Sennheiser a Neumann ) a’u lleoliad.
- Rheoli yn cynnwys recordio a chymysgu gan ddefnyddio rheolydd ICON D
Fe fydd y sesiynau yn rhoi bras drosolwg o reolyddion eraill megis
- M Box,
- Control 24,
- C24
- SSL.
Ceir cyflwyniad i rai sy’n gweithio yn y diwydiant yn barod o sectorau darlledu, cynhyrchwyr cerddoriaeth a pheirianwyr.
Fe fydd cefnogaeth i brosiect ymarferol drwy gyfnodau tiwtorial a sesiynau seminar, lle caiff myfyrwyr gyfle i ennill a datblygu technegau cynhyrchu sy’n berthnasol i’w prosiectau.
Erbyn diwedd y cwrs mi fyddwch yn ...........
- Defnyddio Pro Tools i redeg prosiect recordio, o waith paratoi i gymysgu.
- Deall a defnyddio gwahanol feicroffonau a gwybod sut mae eu lleoli.
- Defnyddio meddalwedd brosesu Waves ac Oxford a prosesu trydedd parti i brosesu sain Pro Tools
- Defnyddio Midi ac offerynnau meddalwedd i gynhyrchu
- Ennill profiad o ddefnyddio rheolwyr recordio safon y diwydiant
- Dysgu gweithio mewn stiwdio recordio broffesiynol
Tiwtor - Jamie Thomas
Peiriannydd Stiwdio a Thechnegydd sy’n dysgu ar gwrs BA Cerddoriaeth a Sain Greadigol a MA/MFA Cerddoriaeth Greadigol Ymarferol. Mae gan Jamie gryn brofiad yn gweithio gyda cherddoriaeth fyw ac yn y stiwdio gan ddefnyddio Pro Tools, Logic, Ableton a MAX MSP.
Tiwtor - Andre Ktori
Uwch ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen MA/MFA Cerddoriaeth Greadigol Ymarferol a Busnes Cerddoriaeth Greadigol. Mae Andre yn enillydd gwobrau BAFTA, Milia d’or- a gwobr Millennium. Gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant yn rheoli stiwdios, unedau darlledu allanol, gyda phrofiad mwy diweddar yn datblygu sain a chyfryngau digidol a datblygu meddalwedd rhyngweithiol.
Arbenigwyr y diwydiant
Mark Wallis, Engineer /Producer.
Mark Wallis is one of the most experienced and versatile producer, engineers around having recorded classic cuts for Travis, The Smiths, U2, Talking Heads, The La's, The Go-Betweens, Kirsty MacColl, Keane, Ronnie Lane, Aswad, The Primitives, Marianne Faithfull, Roger Daltrey, Desmond Dekker, It Bites, The Icicle Works, Japan, The Silencers, Jon Anderson & Chris Squire, The Wildhearts, Lionel Bart, REM, The Quireboys, Marvin Gaye, Tom Verlaine, Steve Lillywhite, Joe Boyd, Albhy Galuten, David Kershenbaum, John Leckie, Al Kooper, Arthur Baker and many others.
Recently Mark has been involved in setting up a new studio as a producers co-operative in North West London called Unity Studios. One of their main aims is to train young people in the real art of recording musicians and bands, a language he feels is fast being lost.
For a full discography see http://markwallismusic.com/




















